Rydym yn defnyddio briwsion

Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis er mwyn gweithredu. Drwy barhau i ddefnyddio’r wefan hon, rydych yn derbyn y byddwn yn gosod cwcis ar eich cyfrifiadur. Gweler ein polisi cwcis am ragor o wybodaeth.

Mae diogelwch ein cynulleidfaoedd, staff ac artistiaid yn bwysig iawn i ni.  Cadwch lygaid ar y wefan i gael y newyddion diweddaraf am Fesurau Diogelwch Covid-19.

Peidiwch â dangos y neges hon eto.
 
 

Cerddorfa Ffilharmonig Caerdydd - Noson yn y Sinema

Rhaglen i gynnwys detholiad o themâu clasurol o...

James Bond
Mission Impossible
Jurassic World
The Lord of the Rings
The Sound of Music
Charade
Far and Away
Back to the Future
Star Wars

Mae'r cyfnod yn paratoi ar gyfer y Nadolig yn dechrau wrth i Gerddorfa Ffilharmonig Caerdydd gyflwyno ei chyngerdd flynyddol Noson yn y Sinema.

Mae detholiad eleni yn cynnwys teyrnged i James Bond gydag amrywiaeth o themâu clasurol a fydd yn eich gwefreiddio! Mae clasuron sinema o The Lord of the Rings i Mission Impossible y mae Tom Cruise yn serennu ynddo a’r ffilm hynod lwyddiannus Jurassic World.

Rydym yn cyflwyno ffefrynnau teuluol a ffilmiau sy’n cael eu dangos yn rheolaidd ar y teledu adeg y Nadolig fel Back to the Future a The Sound of Music, heb anghofio Charade, gyda’r actorion sinema eiconig Cary Grant ac Audrey Hepburn.

Rydym yn talu teyrnged i'r cyfansoddwr penigamp John Williams gyda cherddoriaeth o Far and Away, ffilm gowbois epig gyda Tom Cruise a Nicole Kidman yn chwarae mewnfudwyr Gwyddelig sy’n ceisio eu ffortiwn yn America yn y 1890au. Ni fyddai unrhyw Noson yn y Sinema yn gyflawn heb Star Wars. Yr Orymdaith Ymerodrol wefreiddiol a Darth Vader brawychus; portread o Yoda annwyl, a'r olygfa derfynol fuddugoliaethus.

Bydd y grym gyda ni oll heno!

 
  • Pris Safonol: £18.00 | £11.00 | £13.00 | £19.00 | £25.00
  • Cynnig Cyfres: Archebwch ar gyfer pob un o dair cyngerdd y Gerddorfa i arbed 25% (28 Hyd 22, 2 Rhag 22, a 17 Mawrth 23)
  • Cyfeillion Neuadd Dewi Sant | Myfyrwyr | Pobl dros 60 oed | Hawlwyr: £2.00 oddi ar y ddau docyn band drutaf
  • Dan 18 oed: £6.50
  • 19-25 oed: £10.00
  • WDefnyddiwr cadair olwyn ynghyd ag un cydymaith (ffoniwch y Swyddfa Docynnau ar 02920 878444): £8.00

A thâl postio dewisol o £2.00.
I gael tocynnau Hynt, ffoniwch y Swyddfa Docynnau ar 02920 878444 (dim ond hyn a hyn sydd ar gael – archebwch yn gynnar i osgoi cael eich siomi).

Hynt logo

 
Bwciwch Nawr