Rydym yn defnyddio briwsion

Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis er mwyn gweithredu. Drwy barhau i ddefnyddio’r wefan hon, rydych yn derbyn y byddwn yn gosod cwcis ar eich cyfrifiadur. Gweler ein polisi cwcis am ragor o wybodaeth.

Mae diogelwch ein cynulleidfaoedd, staff ac artistiaid yn bwysig iawn i ni.  Cadwch lygaid ar y wefan i gael y newyddion diweddaraf am Fesurau Diogelwch Covid-19.

Peidiwch â dangos y neges hon eto.
 
 

Cerddorfa Ffilharmonig Caerdydd - Sioe Ysblennydd Calan Gaeaf!

RHAGLEN

Mussorgsky
Noson ar Fynydd Moel

John Williams
’Aunt Marge’s Waltz’ a 'Something Wicked This Way Comes' o drac sain ‘Harry Potter and the Prisoner of Azkaban’

Rachmaninov
Ynys y Meirw

Saint-Saëns
Danse Macabre

John Williams
The Witches of Eastwick: Devil’s Dance

Stravinsky
Yr Aderyn Tân (Cyfres 1919)

 

Mae Cerddorfa Ffilharmonig Caerdydd yn agor ei thymor newydd gyda rhaglen o gerddoriaeth sy'n addas ar gyfer amser mwyaf arswydus y flwyddyn!

Rydym yn dechrau mewn storm wyllt ar Noson ar Fynydd Moel gan Mussorgsky ac yna’n ymweld ag Ynys y Meirw gyda sgôr llawn rhamant dywyll ac awyrgylch bygythiol Rachmaninov a ysbrydolwyd gan y paentiad enwog o'r un enw gan Arnold Böcklin..

Mae dau glasur sinema gyda cherddoriaeth gan y cyfansoddwr penigamp John Williams yn mynd â ni i fyd Harry Potter, yn ogystal â The Witches of Eastwick, a oedd yn cynnwys yr actorion Jack Nicholson, Cher, Michelle Pffeifer a Susan Sarandon.

Mae'r rhaglen hefyd yn cynnwys y darn bythol poblogaidd Danse Macabre (y thema i’r gyfres deledu Jonathan Creek) ac yn gorffen gyda pherfformiad sain trawiadol lle mae daioni’n cael ei gynnig yn erbyn drygioni yng nghyfres Stravinsky o’i fale Yr Aderyn Tân.

 
  • Pris Safonol: £18.00 | £11.00 | £13.00 | £19.00 | £25.00
  • Cynnig Cyfres: Archebwch ar gyfer pob un o dair cyngerdd y Gerddorfa i arbed 25% (28 Hyd 22, 2 Rhag 22, a 17 Mawrth 23)
  • Cyfeillion Neuadd Dewi Sant | Myfyrwyr | Pobl dros 60 oed | Hawlwyr: £2.00 oddi ar y ddau docyn band drutaf
  • Dan 18 oed: £6.50
  • 19-25 oed: £10.00
  • WDefnyddiwr cadair olwyn ynghyd ag un cydymaith (ffoniwch y Swyddfa Docynnau ar 02920 878444): £8.00

A thâl postio dewisol o £2.00.
I gael tocynnau Hynt, ffoniwch y Swyddfa Docynnau ar 02920 878444 (dim ond hyn a hyn sydd ar gael – archebwch yn gynnar i osgoi cael eich siomi).

Hynt logo

 
Bwciwch Nawr