Rydym yn defnyddio briwsion

Mae’r wefan yma’n defnyddio briwsion er mwyn gweithio. O ddal i ddefnyddio’r wefan yma, rydych yn derbyn ein bod yn gosod briwsion ar eich cyfrifiadur. Gweler ein polisi briwsion i gael rhagor o wybodaeth. 

Mae Neuadd Dewi Sant ar gau i’r cyhoedd hyd nes y rhoddir gwybod ymhellach gan ein bod yn cadw at y cyngor a ddarperir gan Lywodraeth y DU.  Mae diogelwch ein cyngherddwyr, ein staff a’n hartistiaid o’r pwys mwyaf. Bydd y wybodaeth ddiweddaraf ar y wefan. 

Mae tocynnau ar gael o'n gwefan fel arfer.

Os oes angen i chi gysylltu â ni, ffoniwch ni ar 07391 791934 | 07743 839816. Mae swyddogion ar ochr arall y llinell ffôn o ddydd Llun i ddydd Gwener 9.30am – 4.00pm.  Cofiwch fod yn amyneddgar gan fod y llinell yn brysur a chofio hefyd ein bod, gwaetha’r modd, yn methu ymateb i negeseuon na thestun na llais a adawir ar y rhif yma.

Peidiwch â dangos y neges hon eto.
 
 

Cerddorfa Ffilharmonig Caerdydd 2021/22

CERDDORFA FFILHARMONIG CAERDYDD
Tymor 2021/22

Rydyn ni nôl! Mae Cerddorfa Ffilharmonig Caerdydd yn eich croesawu i'w tymor newydd, yn arwain at ddigwyddiad arbennig iawn ym Mehefin 2022.

Bydd A Night at the Movies yn dychwelyd ar Ddydd Gwener 10 Rhagfyr 2021 (yn cynnwys Premieres Cymreig Rogue One: A Star Wars Story a'r antur ffantasi boblogaidd Jason and the Argonauts) ac yna bydd Tchaikovsky Night ar Dydd Gwener 18 Mawrth 2022 (gan gynnwys Agorawd 1812).

Daw tymor 2021/22 i ben gyda Chyngerdd Pen-blwydd CFfC yn 40 oed ar Dydd Sadwrn 18 Mehefin 2022 gyda’r unawdydd Martin James Bartlett yn Concerto Piano Gershwin, a'r orau o holl symffonïau rhamantaidd Rwsia, Symffoni Rhif 2 Rachmaninov.

Archebwch bob un o'r tri chyngerdd cyn 6pm ar Ddydd Gwener 10 Rhagfyr 2021 a chewch 25% o ostyngiad ar eich tocynnau tymor. 

Ond cyn hynny cofiwch ddod atom ni i’n Sbloets Opera nos Wener 15 Hydref 2021, wedi’i ad-drefnu o fis Mawrth 2020, ac ynddo uchelfannau rhai o’r operâu mwyaf sgrifennwyd erioed yn cynnwys CarmenAidaSamson and DelilahTurandot a rhagor at hynny.”


Michael Bell MBE
Arweinydd

Gorffennaf 2021
M T W T F S S
 

Ymuno â'r rhestr bostio