Rydym yn defnyddio briwsion

Mae’r wefan yma’n defnyddio briwsion er mwyn gweithio. O ddal i ddefnyddio’r wefan yma, rydych yn derbyn ein bod yn gosod briwsion ar eich cyfrifiadur. Gweler ein polisi briwsion i gael rhagor o wybodaeth. 

Mae Neuadd Dewi Sant nawr ar agor

Mae Neuadd Dewi Sant nawr ar agor i’r cyhoedd, edrychwch ar ein hamserau agor.  Petai angen i chi gysylltu â ni, ffoniwch 02920 878444.

Mae diogelwch ein cynulleidfaoedd, staff ac artistiaid yn bwysig iawn i ni.  Cadwch lygaid ar y wefan i gael y newyddion diweddaraf am Fesurau Diogelwch Covid-19.

Peidiwch â dangos y neges hon eto.
 
 

The Hallé

 Jonathan Bloxham    Arweinydd
 Sergio Castelló López     Clarinét
   
 Kaprálová     Suita Rustica 
 Mozart     Concerto Clarinét  
 Dvořák    Symffoni rhif 8

 

Daw Jonathan Bloxham at yr Hallé i berfformiad gwaith godidog sy’n heigio gan alawon gwych, Wythfed Symffoni Dvorák.Yng ngeiriau’r arweinydd mawr o Tsieciad Vacláv Talich, mae’r symffoni “yn canu am swyn porfeydd gleision, nosweithiau o haf, prudd-der fforestydd gleision, rhialtwch herfeiddiol gwerin Tsiecoslofacia.”Sergio Castelló López, Prif Ganwr Clarinét yr Hallé, ydi’r unawdydd yn concerto tangnefeddus Mozart.I’r clarinetydd mawr ei barch o’r ddeunawfed ganrif, Anton Stadler, y’i cyfansoddodd Mozart ac addasu’r gwaith i wneud yn fawr o aml ddoniau’r cerddor, yn morio mewn sain canu a chariad at gwmpasran isaf soniarus yr offeryn.Mae’r cyngerdd yn cychwyn â Suita Rustica, gwaith arall gan gyfansoddwr o Tsieciad.Caneuon a dawnsiau gwerin ei mamwlad a ysbrydolai Vítězslava Kaprálová ac mae ei gwaith yn gyforiog o funudau o orfoledd diniwed a thelynegiaeth gain.

Llun llaw: Jonathan Bloxham    Credyd: Kaupo Kikkas 
Lluniau isod:  Jonathan Bloxham    Credyd: Kaupo Kikkas;
Sergio Castelló López   
CredydKaupo Kikkas;;
Cyngerdd Haf Hallé      
CredydThe Hallé












 

 

 

 
 Pris Safonol  £10.00  Lefelau 5
(golwg gefn o’r llwyfan a lle ymestyn cyfyngedig)
  £15.00 Lefelau 9 a 13, 10 a 12
  £22.00 Lefelau 9 a 13
  £29.00 Lefelau 3, 4, 6 a 7, Lefelau 10 a 12 (blaen)
Blaen y Stalau Ochr
  £36.00 Seddi Ochr, Lefel 11 (canol), Blaen y Stalau Canol
  £43.00 Seddi Canol, Lefelau 1, 2 a 8, Lefel 11 (blaen), Seddi'r eil Standiau Ochr
   

 Plant dan 16 oed 
 (Os bydd tocynnau ar gael)

PLANT YN MYND AM DDIM
Yng nghwmni pob oedolyn sy’n talu’r pris llawn, mae un plentyn yn mynd am ddim –ceir codi tocynnau i blant eraill am £5.00 yr un. Cynigir y tocynnau a
bwrw’u bod ar gael.
 Tocyn Platinwm 
 Yn cynnwys sedd orau yn Lefel 1, gwydr o Prosecco a  rhaglen. Cofiwch fod hyn yn gymwys ar y tocynnau drutaf  yn unig.
£51.50
 Cyfeillion Neuadd Dewi Sant | Hawlwyr
(Prisiau manteisiol heb fod ar gael ynghlwm â thocynnau Platinwm na Chyflwyniadol.)
£2.00 oddi ar docyn pris llawn
 Myfyrwyr neu Bobl Dan 26 (hyd at hanner awr  wedi chwech ar ddiwrnod y perfformiad.)  Rhaid cyflwyno  prawf adnabod neu codir y pris llawn. Cylchoedd 10 a  12 a’r standiau ochr yn unig. Rhaid casglu tocynnau a  archebir ar-lein ar noson y sioe. £5.00
 Dros 65
(Prisiau manteisiol heb fod ar gael ynghlwm â thocynnau Platinwm na Chyflwyniadol.)
 Gostyngiad o 10%
 Pobl anabl ag un cydymaith
(Prisiau manteisiol heb fod ar gael ynghlwm â thocynnau Platinwm na Chyflwyniadol.)
Hanner pris pob tocyn
 Defnyddwyr cadeiriau olwyn ynghyd ag un cydymaith (Ffoniwch y Swyddfa Docynnau ar 029 2087 8444) £10.00 pob tocyn
 Grwpiau o 10 neu’n fwy (ffoniwch y Swyddfa Docynnau ar 029 2087 8444) Codwch docynnau Cynnig Cynnar a
thalu cyn dydd Sadwrn 25 Medi, Grwpiau
o 10 neu fwy tocyn pris llawn £3.00
yn rhatach, £1.50 ar ôl y dyddiad yma. 
  Grwpiau o 20 neu’n fwy (ffoniwch y Swyddfa Docynnau ar 029 2087 8444)  Codwch docynnau Cynnig Cynnar a
thalu cyn dydd Sadwrn 25 Medi, Grwpiau
o 20 neu fwy tocyn pris llawn £4.00 yn rhatach, £2.50 ar ôl y dyddiad yma.

A ffi bostio opsiynol o £1.50 i docynnau gael eu postio.
Am docynnau Hynt, cysylltwch â’r Swyddfa Docynnau ar 02920 878444. Dim ond hyn a hyn o le sydd ar gael – archebwch yn gynnar i osgoi siom.

*Dim ond un gostyngiad ar gyfer pob tocyn. Rhaid dangos prawf o’r hawl wrth gasglu’r tocyn.

 
Bwciwch Nawr