Rydym yn defnyddio briwsion

Mae’r wefan yma’n defnyddio briwsion er mwyn gweithio. O ddal i ddefnyddio’r wefan yma, rydych yn derbyn ein bod yn gosod briwsion ar eich cyfrifiadur. Gweler ein polisi briwsion i gael rhagor o wybodaeth. 

Mae Neuadd Dewi Sant nawr ar agor

Mae Neuadd Dewi Sant nawr ar agor i’r cyhoedd, edrychwch ar ein hamserau agor.  Petai angen i chi gysylltu â ni, ffoniwch 02920 878444.

Mae diogelwch ein cynulleidfaoedd, staff ac artistiaid yn bwysig iawn i ni.  Cadwch lygaid ar y wefan i gael y newyddion diweddaraf am Fesurau Diogelwch Covid-19.

Peidiwch â dangos y neges hon eto.
 
 

Royal Philharmonic Orchestra

 Vasily Petrenko    arweinydd
 Boris Giltburg    piano
   
 Walton      Johannesburg Festival Overture 
 Beethoven    Concerto Piano Rhif  5
 Vaughan Williams     Symffoni Rhif 2, A London Symphony

 

Daw’r Royal Philharmonic Orchestra yn ei hôl i Neuadd Dewi Sant yng nghwmni ei Chyfarwyddwr Cerdd newydd Vasily Petrenko i noson o gampweithiau cerddorfaol.

Mae gan Vasily Petrenko a’r pianydd Boris Giltburg bartneriaeth artistig enwog a hirsefydlog sy’n ymestyn dros ddegau o flynyddoedd, ar lwyfan ac yn y stiwdio ill dwy.Daw Giltburg at y Gerddorfa ym mhumed concerto piano Beethoven, ei olaf, sy’n mynd dan yr enw ‘Emperor’ – campwaith mawreddog, a concerto piano mwyaf adnabyddus y cyfansoddwr a’r un a berfformir amlaf.

Yng nghysgod y Rhyfel Mawr oedd ar y gorwel y cyfansoddwyd ail symffoni Ralph Vaughan Williams.Unwaith eto, mae cerddoriaeth yn ein hatgoffa mor simsan ydi ein rhyddid, ar yr un pryd ag ysbrydoli gobaith am ddyddiau gwell. 

‘Every note pulses with life and warmth.’The Guardian yn sôn am Boris Giltburg

Mae’r cyngerdd yma’n rhan o Dymor Pymthengmlwyddiant a Thrigain y Royal Philharmonic Orchestra.Bellach, ers pymtheng mlynedd a thrigain, aml ddoniau a safonau artistig digyfaddawd, yn ogystal â chred bod cerddoriaeth yn ddawn sy’n gallu dod â phobl at ei gilydd ac ysbrydoli newid er gwell, ydi nodau amgen y Royal Philharmonic Orchestra.A ninnau’n cychwyn ar y bennod gyffrous nesaf, mae’r Gerddorfa’n eich gwahodd chi i ddod yn gwmni i ni ar y daith ac i rannu gwefr cerddoriaeth gerddorfaol fyw.

Llun gan: Mark McNulty 

 

 
 Pris Safonol  £10.00  Lefelau 5
(golwg gefn o’r llwyfan a lle ymestyn cyfyngedig)
  £15.00 Lefelau 9 a 13, 10 a 12
  £22.00 Lefelau 9 a 13
  £29.00 Lefelau 3, 4, 6 a 7, Lefelau 10 a 12 (blaen)
Blaen y Stalau Ochr
  £36.00 Seddi Ochr, Lefel 11 (canol), Blaen y Stalau Canol
  £43.00 Seddi Canol, Lefelau 1, 2 a 8, Lefel 11 (blaen), Seddi'r eil Standiau Ochr
   

 Plant dan 16 oed 
 (Os bydd tocynnau ar gael)

PLANT YN MYND AM DDIM
Yng nghwmni pob oedolyn sy’n talu’r pris llawn, mae un plentyn yn mynd am ddim –ceir codi tocynnau i blant eraill am £5.00 yr un. Cynigir y tocynnau a
bwrw’u bod ar gael.
 Tocyn Platinwm 
 Yn cynnwys sedd orau yn Lefel 1, gwydr o Prosecco a  rhaglen. Cofiwch fod hyn yn gymwys ar y tocynnau drutaf  yn unig.
£51.50
 Cyfeillion Neuadd Dewi Sant | Hawlwyr
(Prisiau manteisiol heb fod ar gael ynghlwm â thocynnau Platinwm na Chyflwyniadol.)
£2.00 oddi ar docyn pris llawn
 Myfyrwyr neu Bobl Dan 26 (hyd at hanner awr  wedi chwech ar ddiwrnod y perfformiad.)  Rhaid cyflwyno  prawf adnabod neu codir y pris llawn. Cylchoedd 10 a  12 a’r standiau ochr yn unig. Rhaid casglu tocynnau a  archebir ar-lein ar noson y sioe. £5.00
 Dros 65
(Prisiau manteisiol heb fod ar gael ynghlwm â thocynnau Platinwm na Chyflwyniadol.)
 Gostyngiad o 10%
 Pobl anabl ag un cydymaith
(Prisiau manteisiol heb fod ar gael ynghlwm â thocynnau Platinwm na Chyflwyniadol.)
Hanner pris pob tocyn
 Defnyddwyr cadeiriau olwyn ynghyd ag un cydymaith (Ffoniwch y Swyddfa Docynnau ar 029 2087 8444) £10.00 pob tocyn
 Grwpiau o 10 neu’n fwy (ffoniwch y Swyddfa Docynnau ar 029 2087 8444) Codwch docynnau Cynnig Cynnar a
thalu cyn dydd Sadwrn 25 Medi, Grwpiau
o 10 neu fwy tocyn pris llawn £3.00
yn rhatach, £1.50 ar ôl y dyddiad yma. 
  Grwpiau o 20 neu’n fwy (ffoniwch y Swyddfa Docynnau ar 029 2087 8444)  Codwch docynnau Cynnig Cynnar a
thalu cyn dydd Sadwrn 25 Medi, Grwpiau
o 20 neu fwy tocyn pris llawn £4.00 yn rhatach, £2.50 ar ôl y dyddiad yma.

A ffi bostio opsiynol o £1.50 i docynnau gael eu postio.
Am docynnau Hynt, cysylltwch â’r Swyddfa Docynnau ar 02920 878444. Dim ond hyn a hyn o le sydd ar gael – archebwch yn gynnar i osgoi siom.

*Dim ond un gostyngiad ar gyfer pob tocyn. Rhaid dangos prawf o’r hawl wrth gasglu’r tocyn.

 
Bwciwch Nawr