Rydym yn defnyddio briwsion

Mae’r wefan yma’n defnyddio briwsion er mwyn gweithio. O ddal i ddefnyddio’r wefan yma, rydych yn derbyn ein bod yn gosod briwsion ar eich cyfrifiadur. Gweler ein polisi briwsion i gael rhagor o wybodaeth. 

Mae Neuadd Dewi Sant nawr ar agor

Mae Neuadd Dewi Sant nawr ar agor i’r cyhoedd, edrychwch ar ein hamserau agor.  Petai angen i chi gysylltu â ni, ffoniwch 02920 878444.

Mae diogelwch ein cynulleidfaoedd, staff ac artistiaid yn bwysig iawn i ni.  Cadwch lygaid ar y wefan i gael y newyddion diweddaraf am Fesurau Diogelwch Covid-19.

Peidiwch â dangos y neges hon eto.
 
 

Philharmonia Orchestra

 Tianyi Lu   arweinydd
 Chloë Hanslip  ffidil
   
 Mussorgsky  "Dawn on the Moscow River" o Khovanschcina  
 Tchaikovsky  Concerto Ffidil
 Rimsky-Korsakov   Scheherazade


Gwefr, angerdd ac alawon godidog - dewch aton ni i noson gwbl Rwsiaidd o ffefrynnau clasurol a’r Philharmonia, wedi mawr aros amdani, yn dod yn ei hôl i Gaerdydd. 

Y ffidler Chloë Hanslip sydd ar ganol y llwyfan yn yr hyn sydd, gellid dadlau, yn hoff concerto ffidil yr oesoedd – yn had ei adnabod yn y fan ar ei alaw agoriadol foethus – Concerto Ffidil Tchaikovsky sy’n llawn i’r ymylon o arddull y cyfansoddwr, o’r galon.Dyma waith barddonol sy’n stondin i’r dim i Hanslip, sy’n adnabyddus ar gorn ei "impassioned lyricism" (The Guardian). 

Ac i gau pen y mwdwl awn ar daith i fyd rhyfeddol Y Mil Noswaith ac Un yn Scheherazade gogoneddus Rimsky-Korsakov.O olygfeydd ysblennydd i themâu serch cain, dyma gyfle i brofi cwmpas teimladol cyfan y gerddorfa, a’r Philharmonia’n ymddangos am y tro cyntaf gyda’r arweinydd Tianyi Lu, ffefryn lleol yn sgil ei gwaith gydag Opera Cenedlaethol Cymru.

Llun gan: Tianyi Lu    CredydMarco Borggre
Chloë Hanslip     Credyd: Kaupo Kikkas;
Cerddorfa Philharmonia yng Nghanolfan Southbank   
Credyd: Belinda Lawley;
Cerddorfa Philharmonia   Credyd: Camilla Greenwell

  
RHAGOR AM Y GYFRES GLASUROL YNG NGHAERDYDD
SGWRS CYN Y GYNGERDD (AM DDIM)
6:30yp - 7yp | Lefel 1  
Dr Jonathan James

Awr cyn pob un o’n cyngherddau mae gennym gip hanner awr ar gerddoriaeth a chyd-destun y perfformiad. Mae’r digwyddiadau poblogaidd yma’n gydnaws ac yn llawn gwybodaeth ac yn ffordd dan gamp o wneud yn fawr o’ch profiad yn y cyngerdd. 

Mae’r sgyrsiau am ddim i’w mynychu, ond dyrennir llefydd ar sail y cyntaf i’r felin. Cyrhaeddwch yn gynnar i sicrhau’ch lle. Bydd drysau i Lefel 1 ar agor o tua 6pm. 

 
 Pris Safonol  £10.00  Lefelau 5
(golwg gefn o’r llwyfan a lle ymestyn cyfyngedig)
  £15.00 Lefelau 9 a 13, 10 a 12
  £22.00 Lefelau 9 a 13
  £29.00 Lefelau 3, 4, 6 a 7, Lefelau 10 a 12 (blaen)
Blaen y Stalau Ochr
  £36.00 Seddi Ochr, Lefel 11 (canol), Blaen y Stalau Canol
  £43.00 Seddi Canol, Lefelau 1, 2 a 8, Lefel 11 (blaen), Seddi'r eil Standiau Ochr
   

 Plant dan 16 oed 
 (Os bydd tocynnau ar gael)

PLANT YN MYND AM DDIM
Yng nghwmni pob oedolyn sy’n talu’r pris llawn, mae un plentyn yn mynd am ddim –ceir codi tocynnau i blant eraill am £5.00 yr un. Cynigir y tocynnau a
bwrw’u bod ar gael.
 Tocyn Platinwm 
 Yn cynnwys sedd orau yn Lefel 1, gwydr o Prosecco a  rhaglen. Cofiwch fod hyn yn gymwys ar y tocynnau drutaf  yn unig.
£51.50
 Cyfeillion Neuadd Dewi Sant | Hawlwyr
(Prisiau manteisiol heb fod ar gael ynghlwm â thocynnau Platinwm na Chyflwyniadol.)
£2.00 oddi ar docyn pris llawn
 Myfyrwyr neu Bobl Dan 26 (hyd at hanner awr  wedi chwech ar ddiwrnod y perfformiad.)  Rhaid cyflwyno  prawf adnabod neu codir y pris llawn. Cylchoedd 10 a  12 a’r standiau ochr yn unig. Rhaid casglu tocynnau a  archebir ar-lein ar noson y sioe. £5.00
 Dros 65
(Prisiau manteisiol heb fod ar gael ynghlwm â thocynnau Platinwm na Chyflwyniadol.)
 Gostyngiad o 10%
 Pobl anabl ag un cydymaith
(Prisiau manteisiol heb fod ar gael ynghlwm â thocynnau Platinwm na Chyflwyniadol.)
Hanner pris pob tocyn
 Defnyddwyr cadeiriau olwyn ynghyd ag un cydymaith (Ffoniwch y Swyddfa Docynnau ar 029 2087 8444) £10.00 pob tocyn
 Grwpiau o 10 neu’n fwy (ffoniwch y Swyddfa Docynnau ar 029 2087 8444) Codwch docynnau Cynnig Cynnar a
thalu cyn dydd Sadwrn 25 Medi, Grwpiau
o 10 neu fwy tocyn pris llawn £3.00
yn rhatach, £1.50 ar ôl y dyddiad yma. 
  Grwpiau o 20 neu’n fwy (ffoniwch y Swyddfa Docynnau ar 029 2087 8444)  Codwch docynnau Cynnig Cynnar a
thalu cyn dydd Sadwrn 25 Medi, Grwpiau
o 20 neu fwy tocyn pris llawn £4.00 yn rhatach, £2.50 ar ôl y dyddiad yma.

A ffi bostio opsiynol o £1.50 i docynnau gael eu postio.
Am docynnau Hynt, cysylltwch â’r Swyddfa Docynnau ar 02920 878444. Dim ond hyn a hyn o le sydd ar gael – archebwch yn gynnar i osgoi siom.

*Dim ond un gostyngiad ar gyfer pob tocyn. Rhaid dangos prawf o’r hawl wrth gasglu’r tocyn.

 
Bwciwch Nawr