Rydym yn defnyddio briwsion

Mae’r wefan yma’n defnyddio briwsion er mwyn gweithio. O ddal i ddefnyddio’r wefan yma, rydych yn derbyn ein bod yn gosod briwsion ar eich cyfrifiadur. Gweler ein polisi briwsion i gael rhagor o wybodaeth. 

Mae Neuadd Dewi Sant nawr ar agor

Mae Neuadd Dewi Sant nawr ar agor i’r cyhoedd, edrychwch ar ein hamserau agor.  Petai angen i chi gysylltu â ni, ffoniwch 02920 878444.

Mae diogelwch ein cynulleidfaoedd, staff ac artistiaid yn bwysig iawn i ni.  Cadwch lygaid ar y wefan i gael y newyddion diweddaraf am Fesurau Diogelwch Covid-19.

Peidiwch â dangos y neges hon eto.
 
 

Philharmonia Orchestra

 John Wilson    arweinydd
 James Ehnes    ffidil
   
 Sullivan    The Yeoman of the Guard  
 Bruch   Concerto Ffidil Rhif 1
 Elgar   Symffoni Rhif 1

 

Dywedodd Elgar ei hun fod ei Symffoni Gyntaf yn llefaru am “a wide experience of life… and a massive hope in the future.” 

Ym 1908, pan oedd Elgar ychydig dros ei hanner cant, y’i perfformiwyd gyntaf ac aeth â hi ar ei hunion.  Dros ganrif yn ddiweddarach byddai’n dal i fod ar frig rhestr llawer o bobl ym maes y gerddoriaeth geinaf a sgrifennwyd erioed gan gyfansoddwr o Sais.Mae’n llawn angerdd a dwyster ac alawon nodweddiadol urddasol, yn gerddoriaeth deimladol gyhyrog – perfformiad i’n gwefreiddio a’r Philharmonia’n dod yn ei hôl i Gaerdydd. 

At y Philharmonia daw’r ffidler a’r enillydd Gwobr Grammy James Ehnes, “a violinist in a class of his own” (The Times).Mae i bob agwedd ar ei ddawn gerddorol eithriadol - o’i delynegiaeth freuddwyliol hyd at ei aml ddoniau gorawenus - ei ennyd yng nghampwaith cyfleugar Bruch.Yn nwylo Ehnes, mae’n gyfle i weld yn wir pam mae’r concerto yma’n hoff gan gynifer o gyulleidfaoedd drwy’r byd yn grwn. 

Mae John Wilson yn arweinydd gwadd rheolaidd gyda’r Philharmonia.Roedd ei berfformiad diweddaraf gyda’r gerddorfa yn ffrydio yn ystod y clo, cafodd adolygiadau pum seren a chanwyd clodydd ei “impeccable direction” (The Times).

 
 Pris Safonol  £10.00  Lefelau 5
(golwg gefn o’r llwyfan a lle ymestyn cyfyngedig)
  £15.00 Lefelau 9 a 13, 10 a 12
  £22.00 Lefelau 9 a 13
  £29.00 Lefelau 3, 4, 6 a 7, Lefelau 10 a 12 (blaen)
Blaen y Stalau Ochr
  £36.00 Seddi Ochr, Lefel 11 (canol), Blaen y Stalau Canol
  £43.00 Seddi Canol, Lefelau 1, 2 a 8, Lefel 11 (blaen), Seddi'r eil Standiau Ochr
   

 Plant dan 16 oed 
 (Os bydd tocynnau ar gael)

PLANT YN MYND AM DDIM
Yng nghwmni pob oedolyn sy’n talu’r pris llawn, mae un plentyn yn mynd am ddim –ceir codi tocynnau i blant eraill am £5.00 yr un. Cynigir y tocynnau a
bwrw’u bod ar gael.
 Tocyn Platinwm 
 Yn cynnwys sedd orau yn Lefel 1, gwydr o Prosecco a  rhaglen. Cofiwch fod hyn yn gymwys ar y tocynnau drutaf  yn unig.
£51.50
 Cyfeillion Neuadd Dewi Sant | Hawlwyr
(Prisiau manteisiol heb fod ar gael ynghlwm â thocynnau Platinwm na Chyflwyniadol.)
£2.00 oddi ar docyn pris llawn
 Myfyrwyr neu Bobl Dan 26 (hyd at hanner awr  wedi chwech ar ddiwrnod y perfformiad.)  Rhaid cyflwyno  prawf adnabod neu codir y pris llawn. Cylchoedd 10 a  12 a’r standiau ochr yn unig. Rhaid casglu tocynnau a  archebir ar-lein ar noson y sioe. £5.00
 Dros 65
(Prisiau manteisiol heb fod ar gael ynghlwm â thocynnau Platinwm na Chyflwyniadol.)
 Gostyngiad o 10%
 Pobl anabl ag un cydymaith
(Prisiau manteisiol heb fod ar gael ynghlwm â thocynnau Platinwm na Chyflwyniadol.)
Hanner pris pob tocyn
 Defnyddwyr cadeiriau olwyn ynghyd ag un cydymaith (Ffoniwch y Swyddfa Docynnau ar 029 2087 8444) £10.00 pob tocyn
 Grwpiau o 10 neu’n fwy (ffoniwch y Swyddfa Docynnau ar 029 2087 8444) Codwch docynnau Cynnig Cynnar a
thalu cyn dydd Sadwrn 25 Medi, Grwpiau
o 10 neu fwy tocyn pris llawn £3.00
yn rhatach, £1.50 ar ôl y dyddiad yma. 
  Grwpiau o 20 neu’n fwy (ffoniwch y Swyddfa Docynnau ar 029 2087 8444)  Codwch docynnau Cynnig Cynnar a
thalu cyn dydd Sadwrn 25 Medi, Grwpiau
o 20 neu fwy tocyn pris llawn £4.00 yn rhatach, £2.50 ar ôl y dyddiad yma.

A ffi bostio opsiynol o £1.50 i docynnau gael eu postio.
Am docynnau Hynt, cysylltwch â’r Swyddfa Docynnau ar 02920 878444. Dim ond hyn a hyn o le sydd ar gael – archebwch yn gynnar i osgoi siom.

*Dim ond un gostyngiad ar gyfer pob tocyn. Rhaid dangos prawf o’r hawl wrth gasglu’r tocyn.

 
Bwciwch Nawr