Rydym yn defnyddio briwsion

Mae’r wefan yma’n defnyddio briwsion er mwyn gweithio. O ddal i ddefnyddio’r wefan yma, rydych yn derbyn ein bod yn gosod briwsion ar eich cyfrifiadur. Gweler ein polisi briwsion i gael rhagor o wybodaeth. 

Mae Neuadd Dewi Sant nawr ar agor

Mae Neuadd Dewi Sant nawr ar agor i’r cyhoedd, edrychwch ar ein hamserau agor.  Petai angen i chi gysylltu â ni, ffoniwch 02920 878444.

Mae diogelwch ein cynulleidfaoedd, staff ac artistiaid yn bwysig iawn i ni.  Cadwch lygaid ar y wefan i gael y newyddion diweddaraf am Fesurau Diogelwch Covid-19.

Peidiwch â dangos y neges hon eto.
 
 

London Mozart Players

 Delyana Lazarova    arweinydd
 Isata Kanneh-Mason    piano
   
 Prokofiev    Symffoni Rhif 1, Op. 25 ‘Classical’ 
 Clara Schuman    Concerto Piano yn A leddf, Op.7
 Rossini   Agorawd, L’italiana in Algheri
 Mendelssohn   Symffoni Rhif 4, Italian

 

London Mozart Players

Ym 1949, gan Harry Blech, y sylfaenwyd y London Mozart Players, cerddorfa siambr fwyaf hirsefydlog gwledydd Prydain, i swyno cynulleidfaoedd â gweithiau Mozart a Haydn, ac mae’r gerddorfa’n adnabyddus ar gorn ei gwreiddiau digamsyniol Brydeinig. Dros y tair blynedd ar ddeg a thrigain aeth heibio, meithrinodd y LMP air dihafal am raglennu anturus, uchelgeisiol o’r Baróc drwodd i gerddoriaeth gyfoes sy’n croesi genres, ac mae’n dal i ddefnyddio’n sylfaen ei hanes hir ynghlwm â llawer o blith artistiaid gorau’r byd yn cynnwys y Fonesig Jane Glover, Howard Shelley, Nicola Benedetti, Sheku Kanneh-Mason a Michael Collins. Mae gan y gerddorfa fri drwy’r gwledydd yn sgil mynd ar daith drwy hyd a lled Ewrop a’r Dwyrain Pell, ac mae’n recordio’n aml i Naxos, Convivium, Chandos a Hyperion Records.

Mae’r London Mozart Players yn perfformio ar bennaf lwyfannau cyngerdd Llundain, gan gynnwys y Royal Festival Hall, St John’s Smith Square a Cadogan Hall, yn ogystal ag eglwysi cadeiriol ac oedfannau eraill ledled gwledydd Prydain. LMP ydi’r gerddorfa breswyl yn Fairfield Halls Croydon ers tair blynedd ar ddeg ar hugain, ac mae’r ensemble yn ymroddedig fyth i fywyd diwylliannol y fwrdeistref.

Darllenwch gofiant llawn LMP (PDF)











Delyana Lazarova

Yn fawr ei chlod am ei pherfformiadau angerddol a’i phresenoldeb egnïol, mae’r brodor o Fwlgaria, yr arweinydd Delyana Lazarova yn artist ifanc a chanddi yrfa ryngwladol sy’n prysur dyfu.Hi ydi enillydd Gwobr Gyntaf 2020 Cystadleuaeth Ryngwladol Arweinwyr Siemens-Hallé, mae newydd ei phenodi’n Arweinydd Cynorthwyol Syr Mark Elder yn yr Hallé Symphony Orchestra, ac yn Gyfarwyddwr Cerdd yr Hallé Youth Orchestra ym Manceinion, Lloegr.Mae Ms. Lazarova hefyd yn enillydd Cystadleuaeth Arwain Ryngwladol NRTA yn Tirana, yn 2019.Derbyniodd Delyana Wobr Arwain James Conlon yng Ngŵyl Gerdd Aspen, ac ennill Ysgoloriaeth Arwain Bruno Walter yng Ngŵyl Cabrillo, California yn 2017 a 2018. 

Ymhlith galwadau Delyana yn nhymor 2021/2022 mae cyngherddau gyda’r Hallé a London Mozart Players Orchestra yn Lloegr, Real Filharmonía de Galicia yn Sbaen, Klangforum Wien yn Awstria, Kammerphilharmonie Graubünden a Musikkollegium Winterthur yn y Swistir, Cerddorfa Radio Hwngari yn Budapest, a Cherddorfa Radio Genedlaethol Bwlgaria yn Sofia.Yn nhymor 21/22 bydd Ms. Lazarova hefyd yn arweinydd cynorthwyol Cristian Mâcelaru ac Orchestra National de France.Bydd yn mynd â’r gerddorfa ar daith gyngerdd yn Ffrainc ym mis Ionawr, 2022.

Darllenwch gofiant llawn Delyana Lazarova (PDF)

Llun gan: Pascal Uehli



















Isata Kanneh-Mason

Isata Kanneh-Mason is the recipient of the 2021 Leonard Bernstein Award, a 2020 Opus Klassik award for best young artist and, as a member of the Kanneh-Mason family, the 2021 best classical artist at the Global Awards.

Her debut album on Decca Classics, “Romance – the Piano Music of Clara Schumann”, drew popular and critical acclaim, entering the UK classical charts at No. 1 when it was released in July 2019 and leading Gramophone magazine to extol the recording as “one of the most charming and engaging debuts” and Classic FM to praise Isata as “a player of considerable talent”. This was followed in July 2021 by “Summertime”, a journey through the varied piano repertoire of 20th-century America featuring Samuel Barber’s Piano Sonata and a world premiere recording of Samuel Coleridge-Taylor’s Impromptu in B minor.

Darllenwch gofiant llawn Isata Kanneh-Mason (PDF)

Llun llaw: Credyd - Robin Clewley
Lluniau isod: Credyd - John Davis

 








 
 Pris Safonol  £10.00  Lefelau 5
(golwg gefn o’r llwyfan a lle ymestyn cyfyngedig)
  £15.00 Lefelau 9 a 13, 10 a 12
  £22.00 Lefelau 9 a 13
  £29.00 Lefelau 3, 4, 6 a 7, Lefelau 10 a 12 (blaen)
Blaen y Stalau Ochr
  £36.00 Seddi Ochr, Lefel 11 (canol), Blaen y Stalau Canol
  £43.00 Seddi Canol, Lefelau 1, 2 a 8, Lefel 11 (blaen), Seddi'r eil Standiau Ochr
   

 Plant dan 16 oed 
 (Os bydd tocynnau ar gael)

PLANT YN MYND AM DDIM
Yng nghwmni pob oedolyn sy’n talu’r pris llawn, mae un plentyn yn mynd am ddim –ceir codi tocynnau i blant eraill am £5.00 yr un. Cynigir y tocynnau a
bwrw’u bod ar gael.
 Tocyn Platinwm 
 Yn cynnwys sedd orau yn Lefel 1, gwydr o Prosecco a  rhaglen. Cofiwch fod hyn yn gymwys ar y tocynnau drutaf  yn unig.
£51.50
 Cyfeillion Neuadd Dewi Sant | Hawlwyr
(Prisiau manteisiol heb fod ar gael ynghlwm â thocynnau Platinwm na Chyflwyniadol.)
£2.00 oddi ar docyn pris llawn
 Myfyrwyr neu Bobl Dan 26 (hyd at hanner awr  wedi chwech ar ddiwrnod y perfformiad.)  Rhaid cyflwyno  prawf adnabod neu codir y pris llawn. Cylchoedd 10 a  12 a’r standiau ochr yn unig. Rhaid casglu tocynnau a  archebir ar-lein ar noson y sioe. £5.00
 Dros 65
(Prisiau manteisiol heb fod ar gael ynghlwm â thocynnau Platinwm na Chyflwyniadol.)
 Gostyngiad o 10%
 Pobl anabl ag un cydymaith
(Prisiau manteisiol heb fod ar gael ynghlwm â thocynnau Platinwm na Chyflwyniadol.)
Hanner pris pob tocyn
 Defnyddwyr cadeiriau olwyn ynghyd ag un cydymaith (Ffoniwch y Swyddfa Docynnau ar 029 2087 8444) £10.00 pob tocyn
 Grwpiau o 10 neu’n fwy (ffoniwch y Swyddfa Docynnau ar 029 2087 8444) Codwch docynnau Cynnig Cynnar a
thalu cyn dydd Sadwrn 25 Medi, Grwpiau
o 10 neu fwy tocyn pris llawn £3.00
yn rhatach, £1.50 ar ôl y dyddiad yma. 
  Grwpiau o 20 neu’n fwy (ffoniwch y Swyddfa Docynnau ar 029 2087 8444)  Codwch docynnau Cynnig Cynnar a
thalu cyn dydd Sadwrn 25 Medi, Grwpiau
o 20 neu fwy tocyn pris llawn £4.00 yn rhatach, £2.50 ar ôl y dyddiad yma.

A ffi bostio opsiynol o £1.50 i docynnau gael eu postio.
Am docynnau Hynt, cysylltwch â’r Swyddfa Docynnau ar 02920 878444. Dim ond hyn a hyn o le sydd ar gael – archebwch yn gynnar i osgoi siom.

*Dim ond un gostyngiad ar gyfer pob tocyn. Rhaid dangos prawf o’r hawl wrth gasglu’r tocyn.

 
Bwciwch Nawr