Caerdydd Glasurol 2021-22
Mae croeso cynnes yn eich aros chi, a ninnau’n eich gwahodd chi i forio yn swyn y gerddoriaeth glasurol gyda’r gorau sydd ar gynnig yng ngwledydd Prydain, fan hyn yn Neuadd Dewi Sant, Neuadd Gyngerdd Genedlaethol Cymru.
Yma, mewn acwsteg sydd ymhlith goreuon y byd, byddwn yn llywyddu ugain o gyngherddau’n rhoi llwyfan i rai o’r unawdwyr, yr arweinwyr a’r cerddorfeydd sydd fwyaf eu bri yn yr oes sydd ohoni, gan gynnwys ein Cerddorfa Breswyl ein hunain, Cerddorfa Genedlaethol Gymreig y BBC, mewn tymor cyfareddol o gerddoriaeth ysbrydoledig. Croeso i Gaerdydd Glasurol 2021/22!
LAWRLWYTHWCH RAGLEN CYFRES GLASUROL CAERDYDD 2021/22
TANYSGRIFIWCH YN AWR I’N PECYNNAU CYNGHERDDAU
MANTEISION CODI PECYN:
- Gallwch arbed hyd at 30% prisiau’ch tocynnau ac, o godi pecyn yn awr, fe allwch dalu dros chwe mis (yn ddi-log), gyda gwneud i’ch arian fynd ymhellach fyth.
- Y dewis cyntaf o seddi i’n holl gyngherddau eleni.
- Codi tocynnau dros ben yn awr, neu’n nes at yr adeg, i’ch ffrindiau a’ch teulu am eich pris disgownt tanysgrifio chi.
- Blwyddyn gron o gyngherdda gwych i edrych ymlaen ati!
Arbedion | 10% | 10% | 10% | 15% | 15% | 20% | 20% | 20% | 25% | 25% | 25% | 30% | 30% |
Nifer o gyngherddau | 4 | 5 | 6 | 7 | 8 | 9 | 10 | 11 | 12 | 13 | 14 | 15 | 16 |
I danysgrifio, ffoniwch y Swyddfa Docynnau ar 02920 878444 NEU lawrlwythwch a chwblhewch y ffurflen danysgrifio. Gyrrwch hi i’r cyfeiriad isod erbyn y dyddiadau canlynol.
Neuadd Dewi Sant,
Yr Aes,
Caerdydd,
CF10 1AH
RHAGOR AM Y GYFRES GLASUROL YNG NGHAERDYDD
SGWRS CYN Y GYNGERDD (AM DDIM)
Lefel 1
Awr cyn pob un o’n cyngherddau mae gennym gip hanner awr ar gerddoriaeth a chyd-destun y perfformiad. Mae’r digwyddiadau poblogaidd yma’n gydnaws ac yn llawn gwybodaeth ac yn ffordd dan gamp o wneud yn fawr o’ch profiad yn y cyngerdd.
Mae’r sgyrsiau am ddim i’w mynychu, ond dyrennir llefydd ar sail y cyntaf i’r felin. Cyrhaeddwch yn gynnar i sicrhau’ch lle. Bydd drysau i Lefel 1 ar agor o tua 6pm.
Gweler y rhestr ddigwyddiadau isod. Cliciwch ar y llun i lawrlwytho’r PDF.
Ewch i Mesurau Diogelwch Covid-19 Neuadd Dewi Sant am fanylion llawn ar sut rydyn yn gwneud eich ymweliad yn un mor hamddenol, hwyl a diogel â phosibl.