Rydym yn defnyddio briwsion

Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis er mwyn gweithredu. Drwy barhau i ddefnyddio’r wefan hon, rydych yn derbyn y byddwn yn gosod cwcis ar eich cyfrifiadur. Gweler ein polisi cwcis am ragor o wybodaeth.

Mae diogelwch ein cynulleidfaoedd, staff ac artistiaid yn bwysig iawn i ni.  Cadwch lygaid ar y wefan i gael y newyddion diweddaraf am Fesurau Diogelwch Covid-19.

Peidiwch â dangos y neges hon eto.
 
 

Bale 2022

Tri Bale Hudol, Un Tymor Cyffrous!

Raymond Gubbay yn cyflwyno 

Bale Rhyngwladol Varna
yng Nghaerdydd yn ei dymor cyntaf yng ngwledydd Prydain


The Nutcracker
Coppélia
Swan Lake

Perfformir gan
Bale a Cherddorfa Rhyngwladol Varna

Ym 1947 y sylfaenwyd Bale Rhyngwladol Varna sy’n dathlu ei bymthengmlwydd a thrigain ar hyn o bryd ac eleni mae’r cwmni mawr ei glod gan y beirniaid yn dod i wledydd Prydain am y tro cyntaf un. Mae’r cwmni’n enwog am ei unawdwyr arobryn a’i corps de ballet godidog ac mae’n swyno cynulleidfaoedd ers degawdau gartref a thramor â’i berfformiadau o’r safon uchaf.

Daniela Dimova Cyfarwyddwr Artistig
Peter Tuleshkov Cyfarwyddwr Cerddoriaeth a Phrif Arweinydd
 

‘Rydym wrth ein boddau o fod yn dod â’n cwmni o ddawnswyr a cherddorion hynod o ddawnus i wledydd Prydain am y tro cyntaf un. Rydym yn ysu am berfformio i gynulleidfaoedd Prydain ac am roi bywyd o’r newydd ar lwyfan i’r bales hudol hyn.’ Daniela Dimova

Coppélia

Sad 17 Rhagfyr 2022, 2:00pm, 5:30pmSul 18 Rhagfyr 2022, 2:00pm, 5:30pm

Mae’r hanes ysgafnfryd yma - hanes camadnabod a chariadon dryslyd - yn dilyn y ferch ddireidus Swanilda, ei chariadfab byrbwyll Franz a’r saer doliau hynod y Dr. Coppelius, yn fyw mewn coreograffi ...

Rhagor o wybodaethBwciwch Nawr
 
 
Awst 2022
M T W T F S S
 

Ymuno â'r rhestr bostio