Rydym yn defnyddio briwsion

Mae’r wefan yma’n defnyddio briwsion er mwyn gweithio. O ddal i ddefnyddio’r wefan yma, rydych yn derbyn ein bod yn gosod briwsion ar eich cyfrifiadur. Gweler ein polisi briwsion i gael rhagor o wybodaeth. 

Mae Neuadd Dewi Sant nawr ar agor

Mae Neuadd Dewi Sant nawr ar agor i’r cyhoedd, edrychwch ar ein hamserau agor.  Petai angen i chi gysylltu â ni, ffoniwch 02920 878444.

Mae diogelwch ein cynulleidfaoedd, staff ac artistiaid yn bwysig iawn i ni.  Cadwch lygaid ar y wefan i gael y newyddion diweddaraf am Fesurau Diogelwch Covid-19.

Peidiwch â dangos y neges hon eto.
 
 

Bale 2021

Pedwar Bale Hudol, Un Tymor Cyffrous!

Raymond Gubbay yn cyflwyno 

Yn dilyn tymor aruthrol yn 2021 daw cwmni bale mawr ei glod Rwsia yn ei ôl ac i’w ganlyn pedwar bale swynol ac iddyn nhw setiau hudol fydd yn eich cipio i fyd hud a lledrith bendigedig!

Swan Lake
The Nutcracker
Cinderella
Romeo & Juliet

Perfformir gan
Fale Gwladol Rwsiaidd Siberia

I gyfeiliant
Cerddorfa Bale Gwladol Rwsia 

Bale Gwladol Rwsia a Cherddorfa Siberia

Ym 1981 y ffurfiwyd Bale Gwladol Rwsiaidd Siberia a buan yr enillodd ei blwy yn un o gwmnïau bale blaenllaw Rwsia a chael y gair drwy’r gwledydd o draddodi perfformiadau aruthrol o raenus ac anarferol o ddwfn. Mae’r unawdwyr a’r corps de ballet yn odidog, yn swyno cynulleidfaoedd yn ddi-feth â’u gallu corfforol sy’n ddigon i fynd â’ch gwynt chi a’u gwisgoedd pefriol.

Sergei Bobrov Cyfarwyddwr Artistig
Anatoly Tchepurnoi Cyfarwyddwr Cerddoriaeth a Phrif Arweinydd

Financial Times ‘neatly and zestily danced’

‘Mae hi bob amser yn bleser dod â thraddodiadau dihafal Bale Rwsia at gynulleidfaoedd Prydain.I mi mae teithio drwy hyd a lled gwledydd Prydain gyda chwmni llawn o ddawnswyr yn ogystal â cherddorion hynod o fedrus bob amser yn wefreiddiol, mae grym cerddorfa symffoni’n adfywio’r coreograffi ar lwyfan yn beth arbennig iawn.’  Sergei Bobrov

I gael gwybodaeth ynghylch prisiau’r Bale gan gynnwys Tocynnau Mantais, Mwya’r Prynu Fwya’r Fargen, a disgowntiau cliciwch yma.

Cinderella

Sad 18 Rhagfyr 2021, 2:00pm, 5:30pmSul 19 Rhagfyr 2021, 2:00pm, 5:30pm

Hoff stori’r byd o blith straeon tylwyth teg carpiau i gyfoeth, lle gellir gwireddu breuddwydion – yn gymysgedd hudol o sgôr egnïol Prokofiev, coreograffi bywiog a gwisgoedd lliwgar.

Rhagor o wybodaethBwciwch Nawr
 
 

Romeo & Juliet

Gwen 31 Rhagfyr 2021, 2:00pmSul 2 Ionawr 2022, 2:00pm, 5:30pm

Dyma sgôr esgynnol Prokofiev yn rhoi bywyd o’r newydd i hanes Shakespeare, angerdd cignoeth a thrasiedi fythol yn Verona fywiog y Dadeni, a choreograffi gwefreiddiol o deimladol sydd i’r dim i stor...

Rhagor o wybodaethBwciwch Nawr
 
 
Medi 2021
M T W T F S S
 

Ymuno â'r rhestr bostio