Rydym yn defnyddio briwsion

Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis er mwyn gweithredu. Drwy barhau i ddefnyddio’r wefan hon, rydych yn derbyn y byddwn yn gosod cwcis ar eich cyfrifiadur. Gweler ein polisi cwcis am ragor o wybodaeth.

Mae diogelwch ein cynulleidfaoedd, staff ac artistiaid yn bwysig iawn i ni.  Cadwch lygaid ar y wefan i gael y newyddion diweddaraf am Fesurau Diogelwch Covid-19.

Peidiwch â dangos y neges hon eto.
 
 

john Barrowman - AILDREFNU

John Barrowman yn y cyngerdd ‘I am What I am -
West End to Broadway’

Mae John Barrowman yn ymgorffori byd adloniant! Mae’n gorwynt o ddawn, yn artist sy’n gwibio’n gartrefol o’r naill faes i’r llall; mae’n canu, yn dawnsio, yn actio, yn cyflwyno ac o bryd i’w gilydd mae’n beirniadu. Torrodd ei gwys ei hun yn llwyddiannus dros ben ar ddwy lan yr Iwerydd.Dathliad o uchelfannau ei yrfa ydi ‘I Am What I Am - West End to Broadway’ ond mae hefyd yn daith hudol drwy’r gorau oll ym myd theatr gerdd.

Ym 1989 mewn theatr gerdd y cychwynnodd y cyfan, â’i rôl début yn y West End yn rhan Billy Cocker gyferbyn ag Elaine Paige yn nrama gerdd Cole Porter, Anything Goes.

Dyna’r cam cyntaf ar ei daith o’r West End i Broadway a aeth rhagddi â rolau blaenllaw yn Matador, Miss Saigon, The Phantom of the Opera, Sunset Boulevard a rhoi tro eilwaith am ei rôl yn Sunset Boulevard ar Broadway.

Ymhlith ei gredydau theatr gerdd eraill bu Putting it Together (Broadway), The Fix (Donmar) pan gafodd ei enwebu am wobr Olivier yr “Actor Gorau mewn Drama Gerdd”.  Atgyfodwyd Anything Goes gan y National Theatre ac adleolodd wedyn i Drury Lane ond Albin yn La Cage Aux Folles ydi un o hoff rolau John ac enillodd iddo ‘Rôl Olynu Orau’ What’s on Stage.  Bellach y gân glasurol o La Cage “I am What I am” ydi ei arwydd-dôn y mae’n ei chanu i gloi ei sioeau cyngerdd byw.

Meddai John, “From the West End to Broadway, this has been the amazing journey of my musical theatre career.I’ve worked with Andrew Lloyd Webber, Stephen Sondheim, Cameron Mackintosh to name a few.I’ve performed at the National Theatre and on Broadway.I’ve lived my dreams.My new show is a celebration of that wonderful journey.I’ll perform songs from the biggest musicals I’ve starred in and perhaps one or two that I haven’t.Mix in a couple of duets.Sprinkle in a few surprises!This will be a show to remember.This has been a difficult time for many, so join me for a night of laughter and love and the best of musical theatre.”

Dathliad o uchelfannau gyrfa ydi ‘I Am What I Am - West End to Broadway’ ond mae hefyd yn daith hudol drwy’r gorau oll ym myd theatr gerdd. 

 
  • Pris Safonol: £28.00 | £38.00 | £45.50 | £48.00 | £58.00
  • Defnyddwyr cadeiriau olwyn ynghyd ag un cydymaith (Ffoniwch y Swyddfa Docynnau ar 07391 791934): Seddi'r stalau @ £28.00 pob tocyn

A ffi bostio opsiynol o £2.00 i docynnau gael eu postio. 
Am docynnau Hynt, cysylltwch â’r Swyddfa Docynnau ar 02920 878444. Dim ond hyn a hyn o le sydd ar gael – archebwch yn gynnar i osgoi siom.

Logo Hynt

 
Bwciwch Nawr