Beyond The Barricade

Yn 2020, yn dathlu un mlynedd ar hugain bendigedig ar daith, mae’r Cyngerdd Theatr Gerdd sydd ar fynd hwyaf yng ngwledydd Prydain yn cynnwys prif berfformwyr gynt o Les Misérables ac yn cyflwyno dros ddwyawr o oreuon Broadway a’r West End, yn dod i ben, wrth reswm pawb, mewn diweddglo syfrdanol o Les Mis. Bydd y sioe newydd sbon danlli grai yma yn 2020 yn cynnwys llawer o’r eitemau gorau a wnaeth BTB y cyngerdd theatr gerdd mwyaf poblogaidd yn y wlad.

Mae’r cyngerdd yn cynnwys David Fawcett (Valjean) AndyReiss (Enjolras a Chyfarwyddwr Preswyl Taith Genedlaethol Les Misérables) Katie Leeming (Éponine) a Poppy Tierney (Cosette), ynghyd â band byw sy’n dal i’r dim deimlad trefniannau cerddorfaol gwreiddiol y dewis ddramâu cerdd.

 
Pris Safonol £27.00
Grwpiau 10+ (Ffoniwch y Swyddfa Docynnau ar 029 2087 8444) Pob tocyn £2.00 yn rhatach

A ffi bostio opsiynol o £1.50 i docynnau gael eu postio.

Am docynnau Hynt, cysylltwch â’r Swyddfa Docynnau ar 02920 878444. Dim ond hyn a hyn o le sydd ar gael – archebwch yn gynnar i osgoi siom.

 
Bwciwch Nawr