Rydym yn defnyddio briwsion

Mae’r wefan yma’n defnyddio briwsion er mwyn gweithio. O ddal i ddefnyddio’r wefan yma, rydych yn derbyn ein bod yn gosod briwsion ar eich cyfrifiadur. Gweler ein polisi briwsion i gael rhagor o wybodaeth. 

Mae Neuadd Dewi Sant wedi ei gau i’r cyhoedd tan 4 Mehefin gan ein bod yn glynu wrth gyngor a roddwyd gan Lywodraeth y DU.  Mae diogelwch ein cyngherddwyr, ein staff a’n hartistiaid o’r pwys mwyaf.

Bydd y wybodaeth ddiweddaraf ar y wefan. 

Os digwydd bod arnoch angen cysylltu â ni, rhowch ganiad i’n rhif dros dro ar 07391 791934. Mae swyddogion ar ochr arall y llinell ffôn o ddydd Llun i ddydd Gwener 9.30am – 4.00pm.  Cofiwch fod yn amyneddgar gan fod y llinell yn brysur a chofio hefyd ein bod, gwaetha’r modd, yn methu ymateb i negeseuon na thestun na llais a adawir ar y rhif yma.

Peidiwch â dangos y neges hon eto.
 
 

WEDI'I GANSLO - Gweithdy Trïo’r Gamelan

  • Lefel 1
 

1pm - 3pm

Caiff y teulu i gyd flas ar ein hofferynnau taro efydd hardd o Java a dysgu chwarae darn traddodiadol.  Mae’r sesiynau dwyawr yn hwyl ac yn ymarferol o’r dechrau i’r diwedd, yn cynnig rhywbeth newydd pa un a ydych chi’n offerynnwr brwd ynteu heb unrhyw brofiad cerddorol cynt.

Mae gweithdai Trïo yn addas i saith oed a hŷn, rhaid i blant dan un mlwydd ar ddeg fod yng nghwmni oedolyn cyfrifol.

 
 Pris Safonol      £8.50     
 Plant dan 18 oed | Myfywyr | Hawlwyr | Dros 60 | REACT | Pobl anabl ag un cydymaith | Aelodau REACT (16 oed – 25 oed)  (cliciwch yma i gael gwybod sut i ymuno)   £5.50

A ffi bostio opsiynol o £1.50 i docynnau gael eu postio.
Am docynnau Hynt, cysylltwch â’r Swyddfa Docynnau ar 02920 878444. Dim ond hyn a hyn o le sydd ar gael – archebwch yn gynnar i osgoi siom.

 
Wedi’i ganslo