Rydym yn defnyddio briwsion

Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis er mwyn gweithredu. Drwy barhau i ddefnyddio’r wefan hon, rydych yn derbyn y byddwn yn gosod cwcis ar eich cyfrifiadur. Gweler ein polisi cwcis am ragor o wybodaeth.

Peidiwch â dangos y neges hon eto.
 
 

Miriam Margolyes - I'W GADARNHAU | Gwybodaeth wedi'i diweddaru i ddilyn

  • Unigolion dros 16 oed yn unig
 

Dewch aton ni ar antur fythgofiadwy eto drwy fywyd rhyfeddol a barn gref Miriam Margolyes, yn fyw ar lwyfan ar ei thaith fwyaf hyd yma i nodi lansio ei llyfr newydd.

“My new book is called OH MIRIAM! - something that has been said to me a lot over the years (often in tones of strong disapproval) - and it contains lots more revelations and stories and discoveries and I can’t wait to share it with you all”.

Yn actores enillodd BAFTA, llais popeth o Monkey i Gwningen Caramel Cadbury, crëwr myrddiwn o gymeriadau bythgofiadwy o Lady Whiteadder i Professor Sprout, mae Miriam yn un o’r actorion hawsaf eu nabod sy’n gweithio heddiw.

O gael ei danfon oddi ar raglen Today (am ddweud be oedd yn ein meddyliau ni i gyd) i gyfaddef ei chariad at Vanessa Redgrave; o Tales of the Unexpected i soffa Graham Norton, hi ydi ein trysor cenedlaethol anwylaf a mwyaf di-flewyn-ar-dafod – ac mae Oh Miriam! yn mynd â chi i’w phen ac i ddwfn ei chalon.

Yn bendifaddau’n ddigon i ddychryn y saint ac yn ddifyr bob gafael, mae Miriam yn eich aros chi am sgwrs, i noson dros ben llestri, cyn llawned o fywyd a throeon annisgwyl ag ydi’r actores ei hun.

‘There is no one on earth quite so wonderful as Miriam Margolyes’ Stephen Fry

Audience responses from 2021 tour

‘If you’re thinking of going, do it!’

“Amazing, funny, sweet, kind, a lovely person – even if she is very, very rude.”

“The way she tells her stories…I could listen to her talk for hours.”

“One of best things I’ve ever seen. There is nothing better than an inspiring chat
with an intelligent interviewer.”

 
  • Pris gyda’r llyfr: £58.00
    (Yn cynnwys copi clawr caled o Oh Miriam!)

  • Pris safonol: £28.00 | £33.00 | £48.00

A ffi bostio opsiynol o £2.00 i docynnau gael eu postio. 
Am docynnau Hynt, cysylltwch â’r Swyddfa Docynnau ar 02920 878444. Dim ond hyn a hyn o le sydd ar gael – archebwch yn gynnar i osgoi siom.

Logo Hynt