Rydym yn defnyddio briwsion

Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis er mwyn gweithredu. Drwy barhau i ddefnyddio’r wefan hon, rydych yn derbyn y byddwn yn gosod cwcis ar eich cyfrifiadur. Gweler ein polisi cwcis am ragor o wybodaeth.

Peidiwch â dangos y neges hon eto.
 
 

Capital City Jazz Orchestra gyda’r unawdydd gwadd arbennig Alan Barnes - WEDI'I GANSLO

Dewch at y Capital City Jazz Orchestra i noson gampus o gerddoriaeth Big Band. Bydd yma gerddorion Jazz sydd ymhlith goreuon De Cymru yn ei swingio hi ar hyd y nos â chymysgedd o Glasuron Big Band a’r siartiau cyfoes.

Mae’r Capital City Jazz Orchestra yn gwahodd yn ei ôl un o’u hartistiaid gwadd mwyaf poblogaidd, y sacsoffonydd aml ei wobr Alan Barnes. Mae’n un o hoelion wyth sîn jazz Prydain ers dros ddeng mlynedd ar hugain, wedi gweithio gyda llawer o’r arweinwyr band mawr gan gynnwys Humphrey Lyttleton, Stan Tracey a John Dankworth, yn ogystal ag arwain grwpiau lawer yn ei rinwedd ei hun. Yn sgil dull chwarae afieithus Alan a'i ffraethineb difyr does dim dwywaith na chaiff pawb noson fondibethma o Jazz Big Band.

Rownd Derfynol S4C Band Cymru 2014

Cardiff City Jazz Orchestra logo

 
  • Pris safonol: £20
  • Cyfeillion Neuadd Deri Sant | Dros 60: £2 oddi with bob tocyn
  • Myfyrwyr | Plant dan 18 oed: £10
  • Grwpiau o 10 neu’n fwy (ffoniwch y Swyddfa Docynnau ar 029 2087 8444): £2 oddi with bob tocyn
  • Time Credits (Ychydig sydd ar gael) (ffoniwch y Swyddfa Docynnau ar 02920 878444): gredyd

A ffi bostio opsiynol o £2.00 i docynnau gael eu postio. 
Am docynnau Hynt, cysylltwch â’r Swyddfa Docynnau ar 02920 878444. Dim ond hyn a hyn o le sydd ar gael – archebwch yn gynnar i osgoi siom.

Logo Hynt

 

 
Wedi’i ganslo