Rydym yn defnyddio briwsion

Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis er mwyn gweithredu. Drwy barhau i ddefnyddio’r wefan hon, rydych yn derbyn y byddwn yn gosod cwcis ar eich cyfrifiadur. Gweler ein polisi cwcis am ragor o wybodaeth.

Peidiwch â dangos y neges hon eto.
 
 

Charlotte Saluste-Bridoux a Joseph Havlat - WEDI'I GANSLO

Repertoire i'w Gadarnhau

 

Charlotte Saluste-Bridoux

Yn 2021 roedd Charlotte yn enillydd gwobr yn YCAT (Llundain) a Chlyweliadau Rhyngwladol Concert Artists Guild (Efrog Newydd).

Fe’i henwebwyd yn Rising Star Artist 2022 gan Classic FM a’r tymor yma mae Charlotte yn gwneud ei début gyda’r Bournemouth Symphony Orchestra ac East of England Youth Orchestra.

Mae’n mynd yn ei hôl i Wigmore Hall yn unawdydd, Radio France yn Paris, ac i Ŵyl Cerddoriaeth Siambr Trondheim, lle’r enillodd y Quatuor Confluence Wobr Gyntaf yn y Gystadleuaeth yn 2021 a hithau’n flaenwr arno. Ymhellach draw mae’n gwneud ei début yng Ngŵyl Cerddoriaeth Siambr Awstralia ac yn 2024 yn unawdydd yn yr Unol Daleithiau.

 

Joseph Havlat

Pianydd a chyfansoddwr o Hobart, Awstralia ydi Joseph Havlat, sydd â’i gartref yn Llundain.Yn gweithio’n unawdydd ac yn gerddor siambr gyda cherddoriaeth newydd iawn, hen iawn ac ambell i beth rhwng y ddau, perfformiodd mewn oedfannau cyngerdd mawr ledled gwledydd Prydain, Ewrop, America, Japan ac Awstralia.

Mae’n ddehonglwr blaenllaw cerddoriaeth newydd, wedi cydweithio â chyfansoddwyr megis Hans Abrahamsen, John Adams, Thomas Adès, Gerald Barry, Brett Dean, Syr Harrison Birtwistle, Michael Finnissy a Thomas Larcher.Yn gerddor siambr perfformiodd gyda William Bennett, James Ehnes, Steven Isserlis, Katalin Károlyi a Jack Liebeck, ochr yn ochr â’i bartneriaid deuawd rheolaidd Lotte Betts-Dean, Charlotte Saluste-Bridoux a Tim Posner.

Mae hefyd yn aelod o ensemble offerynnau taro LSO y rhyddhaodd CD gyda nhw ar label LSO Live, yn cynnwys recordiad première gwaith John Adams i ddau biano Roll Over Beethoven.Yn gyfansoddwr mae ei gerddoriaeth yn aml yn chwilio seiniau byd natur, yn frith o siapiau mwy garw moderniaeth dyn.Sgrifennodd gerddoriaeth yn amrywio o’r llais solo i ensemble mawr, yn cynnwys i Ensemble x.y, y mae’n un o’i aelodau sylfaenu.

 
  • Pris Safonol: £6.50 Ymlaen llaw | £7.50 Ar y diwrnod
  • Cyfeillion Neuadd Dewi Sant | Dan 16 oed | Dros 60 | Myfyrwyr | Hawlwyr | Pobl anabl ag un cydymaith: £5.50 Ymlaen llaw | £6.50 Ar y diwrnod
  • Time Credits (ffoniwch y Swyddfa Docynnau ar 02920 878444): gredyd

A ffi bostio opsiynol o £2.00 i docynnau gael eu postio. 
Am docynnau Hynt, cysylltwch â’r Swyddfa Docynnau ar 02920 878444.  Dim ond hyn a hyn o le sydd ar gael – archebwch yn gynnar i osgoi siom.

*Dim ond un gostyngiad ar gyfer pob tocyn. Rhaid dangos prawf o’r hawl wrth gasglu’r tocyn.

Logo Hynt

 
Wedi’i ganslo
 

Yn 2022 rhyddhaodd Champs Hill Records ei halbwm solo début Ostinata oedd yn fawr ei glod gan y beirniaid, a Gramophone yn ei disgrifio’n ‘artist with something of her own to say’.

Dros y flwyddyn aeth heibio rhoes Charlotte ddatganiadau a pherfformio concerti ledled gwledydd Prydain gan gynnwys Suffolk Philharmonic Orchestra, Gwyliau Ryedale, Lake District Summer Music, Brighton a King’s Lynn.  

Mae’n gerddor siambr brwd a’i huchelfannau’n cynnwys ymddangosiadau yn y BBC Proms, a Gŵyl Gstaadt ochr yn ochr ag Alina Ibragimova, Lawrence Power, Sol Gabetta a Bertrand Chamayou. 

Cymrodd ran yng Ngwyliau IMS Prussia Cove, East Neuk ac Evian ac ar hyn o bryd mae mewn preswyliad yn y Fondation Singer-Polignac yn Paris gyda Quatuor Confluence.

Cwblhaodd Charlotte ei gradd Meistr yn y Royal College of Music gydag Alina Ibragimova, wedi astudio cynt yn Montpellier, ac yn y Yehudi Menuhin School.

Ar hyn o bryd mae Charlotte yn canu un o ffidlau Giovanni Battista Rogeri, ar fenthyg iddi’n garedig gan y sefydliad yn y Swistir Boubo-Music.

Mae ei waith ar hyn o bryd yn cynnwys trio piano i Trio Mazzolini, a darn ensemble cymysg i Ŵyl Cerddoriaeth Siambr Awstralia y bydd yn mynd yn ôl iddi yn yr haf.

Astudiodd Joseph yn y Royal Academy of Music yn Llundain dan yr Athro Joanna MacGregor, lle cafodd ei BMus a’i MMus gyda chlod, gan gynnwys gwobrau am deilyngdod eithriadol yn fyfyriwr a’r marc datganiad uchaf i bianydd ôl-raddedig.Bu’n Artist Ifanc St. John’s Smith Square, Gŵyl Lieder Rhydychen a Chymdeithas Gyngerdd Kirckman, ac roedd yn enillydd un o wobrau cyntaf Cystadleuaeth Gerddoriaeth yr Urdd Dramor Frenhinol.

Ymhlith uchelfannau diweddar bu chwarae In Seven Days Adès gyda’r LSO dan faton y cyfansoddwr, yn ogystal â première ei Növények yn Wigmore Hall.Ddiwedd 2021 ymddangosodd gyda’r BBC Philharmonic i roi première concerto piano Robert Laidlow Warp, a ddarlledwyd ar BBC Radio 3, ac yn 2022 gwnaeth ei début yn Neuadd Ddatganiad y Concertgebouw mewn rhaglen o Dohnanyi a Mendelssohn gyda’r soddgrythor Tim Posner.Yn 2023 bydd Joseph i’w glywed ar sawl recordiad CD:gweithiau lleisiol Finnissy ar Divine Art Metier (gyda Lotte Betts-Dean a Marsyas Trio), Weather a Rare Blue Lisa Ilean a murmurs Rebecca Saunders i NMC (gydag Explore Ensemble), a dau CD solo, un gyda Debussy, Schumann ac Abrahamsen, a’r llall yn recordiad première The Dissolute Society Comprised of All Sorts Isabella Gellis.Mae Joseph yn dysgu yn y Royal Academy of Music.Mae’n dotio at redyn.