Rydym yn defnyddio briwsion

Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis er mwyn gweithredu. Drwy barhau i ddefnyddio’r wefan hon, rydych yn derbyn y byddwn yn gosod cwcis ar eich cyfrifiadur. Gweler ein polisi cwcis am ragor o wybodaeth.

Peidiwch â dangos y neges hon eto.
 
 

Cerddorfa Symffoni Dinas Birmingham - WEDI'I GANSLO

 Arweinydd    Kazuki Yamada
 Unawdydd    Jeremy Denk, piano
 Gershwin    An American in Paris
 Anna Clyne    ATLAS: Concerto Piano
 Ravel    Pavane pour une infante défunte’ 
 Mussorgsky (trefn. Henry Wood)     Pictures at an Exhibition

 

Cawn raglen gosmopolitaidd nwyfus gan Gyfarwyddwr Cerdd newydd y CBSO, yn cychwyn ag An American in Paris Gershwin, a’i garwriaeth feddwol â’r ddinas yn cymysgu
alawon melangan â chaniadau cyrn tacsis. Mae yna Americanwr yng Nghaerdydd hefyd, a Jeremy Denk yn perfformio ATLAS Anna Clyne a enwebwyd am GRAMMY. Gan yr artist Gerhard Richter y’i hysbrydolwyd ac mae’n enghraifft wych o’i cherddoriaeth goeth ei hansawdd ac eto sy’n taro tant yn syth. Mae gweledigaeth gain Ravel o fyd tywysoges farw’n cynnig egwyl wefreiddiol cyn nodau mwy talog Pictures at an Exhibition Mussorgsky. Fel arfer ar wedd enwog Ravel, wedi’i drefnu i gerddorfa, y’i clywir ond yn y
fan hon tad y Proms, Syr Henry Wood, sy’n lliwio portreadau a golygfeydd yr oriel ddychmygol lachar ei harlliwiau.

 

 
 Pris Safonol  £9.50  Lefelau 5
(golwg gefn o’r llwyfan a lle ymestyn cyfyngedig)
  £15.00 Lefelau 9 a 13, 10 a 12
  £22.00 Lefelau 9 a 13
  £28.50 Lefelau 3, 4, 6 a 7, Lefelau 10 a 12 (blaen)
Blaen y Stalau Ochr
  £34.00 Seddi Ochr, Lefel 11 (canol), Blaen y Stalau Canol
  £39.50 Seddi Canol, Lefelau 1, 2 a 8, Lefel 11 (blaen), Seddi'r eil Standiau Ochr
   

 Plant dan 16 oed 
 (Os bydd tocynnau ar gael)

PLANT YN MYND AM DDIM
Yng nghwmni pob oedolyn sy’n talu’r pris llawn, mae un plentyn yn mynd am ddim –ceir codi tocynnau i blant eraill am £5.00 yr un. Cynigir y tocynnau a
bwrw’u bod ar gael.
 Tocyn Platinwm 
 Yn cynnwys sedd orau yn Lefel 1, gwydr o Prosecco a  rhaglen. Cofiwch fod hyn yn gymwys ar y tocynnau drutaf  yn unig.
£48.00
 Pobl anabl ag un cydymaith
 (Prisiau manteisiol heb fod ar gael ynghlwm â
 thocynnau Platinwm na 
Chyflwyniadol.)
Hanner Pris
 Cyfeillion Neuadd Dewi Sant | Hawlwyr 
(Prisiau manteisiol heb fod ar gael ynghlwm â thocynnau Platinwm na Chyflwyniadol.)
£2.00 oddi ar docyn pris llawn
 Myfyrwyr | Dan 26 oed
Rhaid cyflwyno  prawf adnabod neu codir y pris llawn. 
£5.00
 Dros 65
(Prisiau manteisiol heb fod ar gael ynghlwm â thocynnau Platinwm na Chyflwyniadol.)
 Gostyngiad o 10%
 Defnyddwyr cadeiriau olwyn ynghyd ag un 
 cydymaith (Ffoniwch y Swyddfa Docynnau ar
 029 2087 8444)
Tocynnau stondinau am y pris tocyn isaf ar gyfer pob cyngerdd (ac eithrio’r tocyn £9.50).
 Grwpiau o 10 neu’n fwy (ffoniwch y Swyddfa Docynnau ar 029 2087 8444) Codwch docynnau Cynnig Cynnar a
thalu cyn dydd Sadwrn 9 Medi, Grwpiau
o 10 neu fwy tocyn pris llawn £3.00
yn rhatach, £1.50 ar ôl y dyddiad yma. 
  Grwpiau o 20 neu’n fwy (ffoniwch y Swyddfa Docynnau ar 029 2087 8444)  Codwch docynnau Cynnig Cynnar a
thalu cyn dydd Sadwrn 9 Medi, Grwpiau
o 20 neu fwy tocyn pris llawn £4.00 yn rhatach, £2.50 ar ôl y dyddiad yma.
  Time Credits (Ychydig sydd ar gael) (ffoniwch y Swyddfa Docynnau ar 02920 878444) 2 gredyd


A ffi bostio opsiynol o £2.00 i docynnau gael eu postio.
Am docynnau Hynt, cysylltwch â’r Swyddfa Docynnau ar 02920 878444. Dim ond hyn a hyn o le sydd ar gael – archebwch yn gynnar i osgoi siom.

*Dim ond un gostyngiad ar gyfer pob tocyn. Rhaid dangos prawf o’r hawl wrth gasglu’r tocyn.

 
Wedi’i ganslo