Eliza Carthy - WEDI'I GANSLO
Gwrando'r Gwreiddiau
Dydd Mawrth 14 Mai 2024, 7.30pm
Mae Eliza Carthy wedi cael MBE, Gwobrau Gwerin BBC R2 rhif y gwlith, dau enwebiad am Wobr Mercury, roedd y cerddor traddodiadol cyntaf o Loegr i gael enwebiad am Wobr Cerddoriaeth y Byd BBC R3 ac yn 2021 daeth yn Llywydd Cymdeithas Dawnsio a Chanu Gwerin Lloegr.
Ganed i linach gerddorol ddirfawr, ei mam Norma gynt yn un o’r Watersons a’i thad Martin Carthy yn ganwr ac yn gitarydd aruthrol o ddylanwadol, a bu’r amrywiaeth anhygoel o gerddorion traddodiadol a chyfoes oedd yn rhan o’r byd Waterson/Carthy estynedig yn gymorth iddi ddatblygu ei cyrchddull cerddorol di-ail ei hun.
Plymiodd ar ei phen i fyd gwerin gwledydd Prydain ddechrau’r naw degau a buan y daeth yn un o’i ddyfeiswyr mawr. Pleidiwyd Eliza o’i glasoed gan John Peel, Andy Kershaw, Billy Bragg a’u tebyg a phrin y safodd yn stond yn artistig.
A ffi bostio opsiynol o £2.00 i docynnau gael eu postio.
Am docynnau Hynt, cysylltwch â’r Swyddfa Docynnau ar 02920 878444. Dim ond hyn a hyn o le sydd ar gael – archebwch yn gynnar i osgoi siom.
O’r caneuon traddodiadol digyfeiliant puraf hyd at gerddoriaeth yn ymgorffori myrddiwn o ddylanwadau, symudodd drwy ganu gwerin Lloegr fel un o rymoedd natur, gyda’i gyffroi a’i roi yn ei ôl ar y map, ac yn aelod o’r bandiau mawr The Imagined Village a’r grym natur cerddorol The Wayward Band bu ar ben y rhaglen ar brif lwyfannau gwyliau drwy’r byd yn grwn.
A chanddi gyfoeth o brofiad cerddorol a bywyd i’w henw, mae dawn Eliza wedi aeddfedu ac mae’n tyfu. Mae’n dal i ddenu cynulleidfaoedd newydd i ganu gwerin Lloegr drwy recordiadau a pherfformiadau craff, â chydweithio â Paul Weller, Jools Holland, Patrick Wolf, a Kae Tempest ymhlith eraill.
Gwêl 2022 Eliza yn dathlu deng mlynedd ar hugain anhygoel ym myd cerdd â’r albwm Queen Of The Whirl, yn cynnwys dehongliadau newydd o ffefrynnau ddewiswyd gan ei selogion o’i halbymau cynt, wedi’u recordio gyda’i band Eliza Carthy & The Restitution.